Llety Apollo
Mae eich llety gwyliau moethus ar y llawr isaf yn cynnwys ystafell wely maint brenhinol, gyda chynfasau gwely cotwm Eifftaidd cyfforddus, sedd ffenestr wreiddiol a digon o le i storio eich eiddo.
Mae gan eich lolfa breifat deledu freeview a dal-i-fyny a WiFi am ddim.
Yn eich ystafell gawod gyfagos darperir tywelion moethus a deunyddiau ymolchi.
Mae eich drws allanol yn arwain at eich patio preifat, sydd â golygfeydd o'r llyn, coetir a dolydd ac mae ganddo oleuadau cyfleus a dodrefn moethus. Mae'n ddelfrydol ar gyfer ymlacio ac eistedd allan ar nosweithiau hir o haf.
Mae yna goridor (efo drws sy'n cloi) yn cysylltu'r Llety Apollo i'r Ystafell Mercury. Gall hyn fod ynddelfrydol pan fo'r un parti yn archebu'r ddwy ystafell. I sicrhau eich diogelwch, mae gan eich llety larwm fwg integredig a thortsh er argyfwng.