Daeth Tecwyn yn Swyddog Dynameg Hedfan cyntaf NASA yng Nghanolfan reoli Mercury yn Cape Kennedy. Chwaraeodd ran allweddol yn adnabod y gofynion ar gyfer y rhwydwaith tracio a chyfathrebu ac wrth reoli taflwybr y llongau gofod. Roedd ganddo hefyd gyfraniad allweddol i ddylunio’r Ganolfan Reoli yn Houston, Texas. Yn ddiau roedd gan Tecwyn gysylltiad agos â llwyddiant Prosiect Mercury yn y chwedegau cynnar wrth iddynt gylchdroi llongofod efo chriw mewn orbit o gwmpas y Ddaear, ymchwilio i allu dyn i oroesi a gweithio yn y gofod a sicrhau bod y llong ofod a’r criw yn dychwelyd yn ddiogel.
Yn 1962 apwyntiwyd Tecwyn yn Bennaeth yr Adran Hedfan â Chriw (Manned Flight Division) yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard, Maryland, ble gannwyd ei fab Michael. Yn ddiweddarach penodwyd yn Bennaeth Peirianneg Hefan â Chriw (Manned Flight Engineering Division) gan roi iddo’r cyfrifoldeb am Rwydwaith Tracio NASA, sef cyfres o orsafoedd tracio a adeiladwyd i gefnogi prosiectau Mercury, Gemini, Apollo a Skylab.
Am y cyflawniad hwn cafodd ei anrhydeddu yn 1964 gyda Gwobr Gwasanaeth Eithriadol NASA am ei gyfraniad i'r rhaglen hedfan gofod gyda chriw ym maes gweithrediadau hedfan.